Rwsia 17: Datganiad Piano gan Peter Donohoe

17/10/2017, 7:00 pm - 9:00 pm

Ar 17 Hydref 2017, canrif union bron i’r  dyddiad, bydd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn nodi canmlwyddiant y Chwyldro  Rwsiaidd, 1917, a byddwn yn ymuno  â sefydliadau celfyddydol eraill ar draws Cymru i ddathlu’r amgylchiad gyda gwledd o gerddoriaeth a diwylliant Rwsiaidd.

Bydd y pianydd byd-enwog Peter Donohoe yn ein tywys ar siwrnai o bedwar ugain mlynedd o gerddoriaeth fyrlymus o Rwsia mewn rhaglen sy’n cyfosod mynegiant synfyfyriol Scriabin a Rachmaninov gyda naws fwy pigog ond telynegol Stravinsky. Cawn brofi tanbeidrwydd Prokofiev a naws mwy myfyrgar Shostakovich cyn yr uchafbwynt yng ngwaith gorchestol Mussorgsky Darluniau mewn Arddangosfa. Ar ôl ei lwyddiant ysgubol yng Nghystadleuaeth Rhyngwladol Tchaikovsky yn 1982 yn Moscow, mae Peter Donohoe wedi ennill ei le fel un o bianyddion mwyaf nodedig ein cyfnod. Mae’n arbenigwr ar gerddoriaeth Rwsia, ac mae ei recordiadau o Rachmaninov, o holl weithiau piano Scriabin a holl Sonatau Prokofiev, yn ogystal â llawer gwaith arall gan Shostakovich a Stravinsky wedi ennill bri rhyngwladol iddo.

Gosodir y rhaglen mewn cyd-destun Rwsiaidd ehangach gan yr arbenigwr ar gerddoriaeth Rwsia, yr Athro Marina Frolova-Walker, awdur Russian Music and Nationalism from Glinka to Shostakovich (Yale, 2007) a Stalin’s Music Prize: Soviet culture and Politics (Yale, 2016). Bydd hi yn sgwrsio am fywyd cerddorol yn Rwsia yn ystod Undeb Sofietaidd Stalin.

Cynhelir sgwrs cyn y cyngerdd gyda Peter Donohoe a Marina Frolova-Walker, gyda Caroline Rae yn cadeirio.

17 Hydref 2017

4.30yh  Darlith John Bird  

Darlithfa Boyd, Adeilad Cerddoriaeth

Yr Athro Marina Frolova-Walker (Prifysgol Caergrawnt) – Stalin’s Playlist

6.15yh Sgwrs cyn y Cyngerdd gyda Peter Donohoe a Marina Frolova-Walker

Neuadd Gyngerdd, Adeilad Cerddoriaeth

Ymunwch â Peter Donohoe, Marina Frolova-Walker a Caroline Rae i   drafod agweddau ar  y gerddoriaeth a glywir yn y datganiad heno

7.00yh  Datganiad Piano  – Peter Donohoe

Neuadd Gyngerdd, Adeilad Cerddoriaeth

Scriabin: Sonata Rhif 2 (1898)

Stravinsky: Serenade yn A (1925)

Rachmaninov: Preliwdiau Rhifau  1-5 o  Op.23 (1901-3)

Prokofiev: Sonata Rhif 3 (1917)

Shostakovich: Preliwdiau a Ffiwgiau  Rhifau  6 yn B leiaf a 7 yn A fwyaf (1950-1)

Mussorgsky: Darluniau mewn Arddangosfa (1874)

 

Booking

Tocynnau: £10, £8, myfyrwyr a rhai dan 18 am ddim

Book places

The venue

Google map

Cardiff University Concert Hall
Corbett Road
Cardiff
CF10 3EB

Share this event

Save to your calendar

Save this event to your calendar of choice.