Jazz yn y Brifysgol: Maria Pia De Vito (datgeiniad) + Huw Warren (piano)

07/10/2017, 7:00 pm - 9:00 pm

Dialektos: Maria Pia De Vito + Huw Warren

Mae Dialektos yn ymrwymiad  cerddorol nodedig rhwng y datgeiniad Eidalaidd Maria Pia De Vito a’r pianydd o Gymro Huw Warren. Perfformir gyfansoddiadau gan y ddau gan gynnwys osodiadau o gerddi o Napoli a chaneuon o Frasil. Mae  yma gymysgedd o ryngweithio telepathig gyda hwyl ac asbri anturus, ac mae’r farddoniaeth mewn tafodiaeth Naplaidd yn rhoi naws unigryw  o safbwynt jazz  cyfoes  i’r cydberfformio.

Ysgrifenwyd yn Jazzwise, “I honestly can’t remember the last time I saw a live performance in which two artists were so completely attuned to each other”.

Fel deuawd mae  Maria a Huw wedi teithio’r byd yn ystod y ddegawd ddiwethaf ac maent wedi recordio dwy albwm ( i label Parco Della Musica) gyda’r clarinetydd Gabriele Mirabassi (Dialektos) a’r gitarydd Ralph Towner ( O Prata Pata). Maent ill dau yn gysylltiedig â label ECM, Huw drwy ei waith ar y cyd gydag Iain Bellamy  a June Tabor (trwy gyswllt Quercus)  a Maria ers 2013 trwy ei chydweithio gyda   Francois Couturier, Anje Lechner a Michele Rabbia  yn y prosiect Il Pergolese.

Eu menter ddiweddaraf yw Core/Coração  (Jando Music) lle clywir eiriau a chyfieithiadau newydd gan Maria Pia de Vito o gerddoriaeth gan Chico Buarque, Guinga ac Egberto Gismonti. Mae Chico Buarque yn  ymuno â nhw fel gwestai arbennig.

Mae Maria Pia De Vito yn un o ddatgeiniaid byrfyfyr mwyaf blaengar  Ewrop. Astudiodd ganu operatig a chanu cerddoriaeth fodern, piano, offerynnau taro a pholyffoni cyn ymddiddori mewn jazz. Ceir blas o’i hamlochredd syfrdanol (o scat i beatboxing) yn eu pherfformiadau gyda: Joe Zawinul, Michael Brecker, John Taylor, Rita Marcotulli, Paolo Fresu, Norma Winstone, Art Ensemble of Chicago, Dave Liebman a Rama Mani.

www.mariapiadevito.com

 

Booking

Tocynnau: £10, £8, myfyrwyr a rhai dan 18 am ddim

Book places

The venue

Google map

Cardiff University Concert Hall
Corbett Road
Cardiff
CF10 3EB

Share this event

Save to your calendar

Save this event to your calendar of choice.