Jazz yn y Brifysgol: Huw Warren – More Tails for Wales

04/11/2017, 7:00 pm - 9:00 pm

Huw Warren – Piano

Iain Ballamy – Sacsoffon

Steve Watts – Bas

Martin France – Drymiau

Mewn perfformiad cyntaf unigryw yn y gyfres Jazz yn y Brifysgol mae’r cyfansoddwr/pianydd blaengar Huw Warren yn cyflwyno prosiect newydd o gerddoriaeth wreiddiol gyda’i gyd-weithwyr hirsefydlog Ballamy, Watts a France. Bu Tails for Wales ar daith trwy Gymru yn 2014 (gyda Mark Lockhart a Maria Lamburn) ac ar y daith perfformiwyd gerddoriaeth newydd cysylltiedig â Chymru.

Fel un o gerddorion  jazz enwocaf Cymru mae Huw Warren wedi tynnu ar ei wreiddiau yng Ngŵyr ac ar ei  gartref presennol yng nghanol Eryri am  ysbrydoliaeth, ac mae nifer fawr o brosiectau yn adlewyrchu hyn fel, er enghraifft, Duw a Wyr (Emynau Cymraeg gyda Lleuwen Steffan, 2004) a Do Not Go Gentle (Cyfres  Dylan Thomas o’r Wyl DT100 yn 2015)

Mae pob un o’r pedwar cerddor wedi bod yn flaengar iawn yn y byd jazz ym Mhrydain ac yn Ewrop ers yn gynnar yn y1990au a buont yn brysur yn perfformio mewn partneriaethau hyblyg fyth ers hynny. Mae Ballamy a Warren wedi recordio gyda’i gilydd i ECM fel rhan o driawd Quercus a G+France ac mae Warren wedi recordio llawer gydal Perfect Houseplants. Ymhlith recordiau unigol Huw mae  100’s of Things a Boy can Make (2003) a Hermeto+ 2009.

Mae Huw Warren wedi cyfansoddi ar gyfer grwpiau jazz a chlasurol gan gynnwys Pertfect Houseplants, Consort Orlando, Cwmni’r Royal Shakespeare, Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Siambr Cymru, LPO, Ensemble Regna, Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Pamela Thorby, Elkene Riu ac ar gyfer sylabws jazz yr ABRSM. Enillodd y BBC Jazz Award am Waith Arloesol yn 2005 ac mae hefyd wedi ennilll gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru

“one of the most lyrical pianists around and his playing is the most delicate and subtle imaginable” –John Potter

“A European stylist of the highest order” BBC Music Magazine

“a slow piece…Still Hearing You, possibly the most ravishing melody I have heard in my life”

Miles Kington, The Independent

 

Booking

Tocynnau: £10, £8, myfyrwyr a rhai dan 18 am ddim

Book places

The venue

Google map

Cardiff University Concert Hall
Corbett Road
Cardiff
CF10 3EB

Share this event

Save to your calendar

Save this event to your calendar of choice.