Chwythbrennau Symffonig Prifysgol Caerdydd
05/12/2019, 7:00 pm - 8:00 pm

Dywedodd John Adams: ‘Cyfansoddwyd Lollapalooza fel anrheg penblwydd i Simon Rattle sydd wedi bod yn gyfaill ers llawer o flynyddoedd. Mae’r term ‘lollapalooza’ yn amwys ei ystyr a hynny efallai sy’n ei wneud yn boblogaidd fel gair Americanaidd cynrychioladol. Mae’n awgrymu rhywbeth mawr a dilednais. Roedd H.L.Mencken yn ei ymdebygu i bwniad wrth rhoi cweir mewn gornest baffio. Hoffais ei rhythm da-da-da-DAH-da. Mae’r trombôn a’r tiwba yn chwarae hwn (C-C-C-E♭-C , gan bwysleisio’r E♭) fel tôn gron. Mae sawl motif arall ychwanegol i’r lollapalooza a’r oll yn ymddangos ac yn datblygu ar ffurf behemoth dawnsiol tan y diwedd pan mae’r cyrn a’r trombonau yn cloi y gwaith gyda chyfraniad swnllyd gan y timpani a’r drwm mawr.
Booking
Tocynnau £5, mynediad am ddim i fyfyrwyr a phobl ifanc dan 18 oed
Book placesThe venue
Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd
Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd
Caerdydd
CF10 3EB
Share this event
Save to your calendar
Save this event to your calendar of choice.